English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 
Graffiti - anti social behaviour

Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn (1998) yn diffinio ymddygiad gwrthgymdeithasol fel "acting in a manner that causes or is likely to cause harassment, alarm or distress to one or more persons not of the same household as (the complainant)".

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys amryw o weithgareddau fel aflonyddu, difrodi eiddo, fandaliaeth, ymddygiad meddw ac afreolus a niwsans sŵn.

Does dim dwywaith fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwneud bywyd yn boen i lawer iawn o bobl yn ein cymuned. Gall fod yn anodd mynd i'r afael ag ef, ond mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn benderfynol o roi blaenoriaeth i'r maes hanfodol bwysig hwn.

Enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol

    · Niwsans sŵn

    · Aflonyddu

    · Tipio anghyfreithlon

    · Camddefnyddio Alcohol

    · Masnachu anghyfreithlon

    · Digwyddiadau casineb a hiliol

    · Camddefnyddio Sylweddau

    · Ymddygiad treisiol

    · Graffiti

    · Cerbydau

    · Sbwriel

    Daw’r atgyfeiriadau at Gydgysylltydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Cyngor o asiantaethau partner yn unig. Os bydd rhywun am wneud cwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol dylai wneud hynny i'r asiantaeth berthnasol, fel yr Heddlu neu adran o’r Cyngor. 

    Mae pob cwyn yn cael ei chofnodi. 

    Pan fo asiantaeth yn ystyried bod y digwyddiad neu'r patrwm o ymddygiad yn ddigon difrifol, caiff yr wybodaeth berthnasol ei throsglwyddo i'r Cydgysylltydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i’w gofnodi ar gronfa ddata’r Bartneriaeth.

    Ar hyn o bryd mae pedwar cam i’r broses, a gobeithiwn ymdrin â'r rhan fwyaf o achosion drwy ganfod ymddygiad gwrthgymdeithasol a mynd i’r afael ag ef

    Y Broses 4 Cam

    Cam 1:  Llythyr Rhybuddio

     

    Caiff llythyr ei anfon at y person a enwyd, ac, yn achos rhywun o dan 16 oed, ei riant neu ei warcheidwad, yn rhybuddio am ganlyniadau unrhyw ddigwyddiad pellach. Caiff yr holl wybodaeth ei chofnodi ar y gronfa ddata ymddygiad gwrthgymdeithasol.

    Cam 2: Llythyr/Ymweliad

     

    Os bydd ail ddigwyddiad o fewn amser rhesymol ar ôl y cyntaf, caiff ail lythyr rhybuddio ei anfon at y troseddwr a'r rhiant/gwarcheidwad os yn briodol, yn manylu am y ddau ddigwyddiad yr achwynwyd amdanynt. Gall swyddog o’r heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) hefyd wneud trefniadau i ymweld â chartref y troseddwr.

    Cam 3: Contract Ymddygiad Derbyniol (ABC)
    Cynigir ABC i’r unigolyn os nad yw ei ymddygiad wedi gwella (gweler isod).

    Cam 4: Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Lleol

    Bydd y cam hwn ond yn cael ei gyrraedd yn yr achosion mwy difrifol o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn y cam hwn bydd ystod o fesurau gorfodi yn cael eu trafod megis gwaharddeb, tenantiaeth isradd, troi allan neu Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO).

    Pwerau y gallwn eu defnyddio i fynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

    Rhybuddion

    Gall rhybuddion ysgrifenedig neu lafar fod yn effeithiol o ran atal pobl rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Dylai llythyron rhybuddio nodi safonau clir o ymddygiad gan atgyfnerthu'r negeseuon na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef. Mae rhybudd yn amlinellu'r math o ymddygiad sy’n annerbyniol, ac yn nodi na ddylai ymddygiad o'r fath barhau yn y dyfodol 

    Contractau Ymddygiad Derbyniol (ABC)

    Cytundeb gwirfoddol ysgrifenedig yw hwn rhwng rhywun sydd wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol a'r Bartneriaeth. Mae’r contractau’n para am 6 mis ac maent yn ffordd gyflym ac effeithiol o ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n rhestru'r ymddygiad nad yw'n cael ei ganiatáu. 

    Mae adnabod y broblem, anfon llythyron rhybuddio a thrafod y mater gyda'r unigolyn a'r rhieni yn aml yn llwyddo i ddod â’r ymddygiad i ben heb orfod cyflwyno’r ABC gwirfoddol. 

    Gwaharddebau

    Mae amryw o waharddebau ar gael at ddefnydd awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gwaharddebau yn hyblyg, syml a chyflym - gall llys wneud gwaharddeb o fewn ychydig oriau i’r cwyn a chyn i'r broblem waethygu gan roi diogelwch i bobl eraill ar unwaith. Atebion sifil yw gwaharddebau sy’n ddarostyngedig i reolau sifil o dystiolaeth a safon sifil o brawf. Gallant fod yn offeryn effeithiol yn erbyn pobl 18 oed neu hŷn. Gall torri gwaharddeb arwain at ddedfryd o garchar am hyd at 2 flynedd a/neu ddirwy ddiderfyn am ddirmyg llys.

    Mae gwaharddebau yn rhoi diogelwch ar unwaith ac yn gosod safon glir o ymddygiad. Maent yn gwahardd yr unigolyn rhag ymddwyn mewn ffordd a allai achosi niwsans neu aflonyddwch. Mae gwaharddebau ar gael i ddelio â niwsans sy’n ymwneud â thai neu niwsans cyhoeddus.

    Meddiant

    Mae troi allan yn sancsiwn difrifol iawn y dylid ond ei ddefnyddio pan fydd pob cam arall wedi methu neu pan fydd natur yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddifrifol iawn. Mae'n bwysig bod y rhai sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwybodol o ganlyniadau eu hymddygiad.

    Pwerau Gwasgaru
    Gellir defnyddio Gorchmynion Gwasgaru i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn mewn mannau cyhoeddus, fel arcêd siopa neu barciau. Mae Rhan 4 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi pwerau i'r heddlu i ddynodi ardal lle bu ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson a pharhaus a lle mae grwpiau o bobl wedi achosi dychryn, braw neu ofid i aelodau o'r cyhoedd. Mewn ardal wasgaru ddynodedig, gall yr heddlu fynnu bod unigolion yn gadael yr ardal a gallant gael eu heithrio o'r ardal am hyd at 24 awr.

     

    Gorchmynion Gwrthgymdeithasol (ASBO)  

    Mae hwn yn orchymyn a osodir mewn Llys Sifil, neu os cafwyd unigolyn yn euog o drosedd yn y Llys Ynadon, y Llys Ieuenctid a Llys y Goron. Mae ASBO yn rhoi gwaharddiadau ar unigolyn, gan gynnwys ei wahardd o fannau penodol, ei atal rhag dod i gysylltiad ag unigolion penodol ac mae’n cynnwys camau gweithredu penodol, sy'n ymwneud ag atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y cyfnod lleiaf yw dwy flynedd, yn dibynnu ar oedran y person a difrifoldeb yr ymddygiad.

    Mae methiant i gadw at amodau'r gorchymyn yn drosedd ag iddi gosb o garchar am hyd at bum mlynedd, dirwy heb fod yn fwy na £5,000, neu'r ddau.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/12/2010