Mae'r Oriel hon yn cynnig cyfle i ddarganfod mwy am hanes cymuned lofaol fyrlymus.

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd diwydiant ar raddfa eang wedi
trawsnewid Dyffryn Aman. Daeth adnoddau naturiol cyfoethog,
yn enwedig y glo caled enwog, â mwyngloddiau glo, gweithiau
haearn a thunplat, rheilffyrdd a phobl i weithio ynddynt.
Mae'r Oriel yn talu teyrnged i un o feibion enwog y fro, Jim Griffiths
o'r Betws, arweinydd y glowyr, Aelod Seneddol Llanelli ac
Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru.
Ar agor dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am - 5pm