Saif yr amgueddfa hon ar safle un o'r gweithfeydd tunplat
hynaf ym Mhrydain. Gellir gweld peirianwaith ac adeiladau
gwreiddiol ynghyd â darnau arddangos am fwyngloddio glo, diwydiannau a chrefftau eraill.

Gall ymwelwyr ddarganfod sut cafodd tunplat ar gyfer caniau a
chwpanau ei wneud yn ogystal â dysgu am hanes diwydiannau
Sir Gaerfyrddin.
Mae'r amgueddfa mewn dyffryn dymunol ac yn agos i'r Castell
enwog yng Nghydweli a Pharc Gwledig Pen-bre. Mae'n lle
arbennig am ddiwrnod allan i'r teulu.
Mae cyfleusterau'r amgueddfa yn cynnwys:
• Parcio
• Mynediad ar gyfer pobl anabl
• Dolen sain
• Siop
• Diodydd ar gael
• Toiledau
• Caniateir cŵn tywys
Amserau Agor 2012
Dydd Mawrth a Dydd Iau 10 am - 5 pm
Dydd Sadwrn 12 pm - 5 pm
Dyddiadau Agor 2012
Gŵyl Y Pasg
|
Dydd Gwener y Groglith 6 Ebrill |
Dydd Sadwrn 7 Ebrill |
|
|
| |
|
Dydd Mawrth 10 Ebrill |
Dydd Iau 12 Ebrill |
| |
Dydd Sadwrn 14 Ebrill |
Dydd Mawrth 17 Ebrill |
Dydd Iau 19 Ebrill |
| |
Dydd Sadwrn 21 Ebrill |
|
|
Penwythnos Dydd Gŵyl Mai
Dydd Sadwrn, 5 Mai yn unig
Yr Haf
Dydd Mawrth , 5 Mehefin - Dydd Sadwrn, 29 Medi (y diwrnod diwethaf)