English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/3/2011
Adran Lles Addysg 

Prif Gyfrifoldebau'r Gwasanaeth Lles Addysg:-

Hybu presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol, fel y disgrifiwyd yng ngweddill y daflen. Hefyd estyn cymorth a chyngor ynghylch y rheoliadau sy'n ymwneud â:-

• Gwaharddiadau Disgyblion o'r Ysgol
• Anghenion Arbennig
• Amddiffyn Plant
• Cyflogi Plant
• Plant yn perfformio
• Gwarchodwyr
• Addysg heblaw mewn ysgol

Mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Lles Addysg

Darperir y Gwasanaeth Lles Addysg gan yr Awdurdod Addysg Lleol er mwyn helpu, cynghori a bod yn gyfaill i bob rhiant a phob plentyn er mwyn sicrhau presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.

Er mwyn gwneud hyn, mae'n gweithio mewn partneriaeth â:

• Disgyblion a'u teuluoedd
• Ysgolion
• Gweithwyr proffesiynol eraill, e.e. Gweithwyr Cymdeithasol, Gwasanaethau Ieuenctid, Seicolegwyr Addysg, ac ati.

Fel arfer, mae'r Gwasanaeth yn ymwneud â sefyllfa pan fo problemau yn yr ysgol; yn aml, mae'r problemau'n ymwneud â disgyblion sydd yn absennol o'r ysgol  ac/neu'n mynd i drafferth yn yr ysgol.

Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r Gwasanaethau droi at y gyfraith i'w helpu i ddatrys y broblem. Gallai hyn olygu:-

• Erlyn Rhieni
• Cyflwyno cais am Orchymyn Goruchwylio Addysgol mewn perthynas â'r plentyn
• Gorchymyn Mynychu'r Ysgol 

Mae gan bob ysgol ei Swyddog Lles Addysg ei hun.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan eich Swyddog Lles Addysg?

Bydd y Swyddog Lles Addysg bob amser yn:-

• Eich trin chi fel unigolyn
• Gwrando ar eich barn
• Sicrhau bod yr hyn a ddywedwch yn cael ei gadw'n gyfrinachol (ac eithrio pan fo rhywun yn cael niwed)
• Ymgynghori â chi bob cam
• Cadw apwyntiadau


Bydd y Swyddog Lles Addysg yn:-

• Gweithio gyda chi, eich rhieni a'ch ysgol er mwyn ceisio datrys y broblem.
• Rhoi blaenoriaeth i'ch buddiannau chi.
Dydy hyn ddim yr un fath â gwneud popeth rydych chi neu eich rhiant/rhieni ei eisiau.
• Disgwyl ichi ac i'ch rhiant/rhieni gytuno ag unrhyw awgrym rhesymol a wneir,  yn enwedig os ydych chi'n destun Gorchymyn Goruchwylio Addysg.
• Disgwyl cael ei drin/thrin yn yr un ffordd ag y mae ef/hi yn eich trin chi.

Cysylltwch â ni drwy ffonio:

01267 246591, 01267 246589 neu 01267 246596

 Canllawiau ynghylch Cyflogi Plant

 Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn monitro ac yn cynnig cyngor ynghylch cyflogi plant. Gellir lawrlwytho'r ffurflenni amgaeedig i'w defnyddio gan rieni/gwarcheidwaid/cyflogwyr er mwyn cael gwybodaeth am y gofynion statudol ar gyfer cyflogi plant.

Wrth wneud cais am yr hawlen angenrheidiol ar gyfer plant 13-16 oed sydd o oedran ysgol gorfodol, edrychwch ar dudalen yr adran Cyflogi Plant ar y wefan yma.