Mae'r Cyngor wedi dechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (CDLl).
Bydd y CDLl yn egluro cynigion a pholisïau’r Awdurdod ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn ei ardal weinyddol yn y dyfodol. Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, bydd y CDLl yn disodli'r Cynllun Datblygu Unedol presennol, a bydd penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio yn cael eu seilio'n bennaf ar ei gynnwys. Felly, mae'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch pa fath o ddatblygiad fydd yn cael ei ganiatáu, neu ei wrthod, mewn lleoliadau penodol yn ystod cyfnod y cynllun.
Mae'n ofynnol dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 bod Cynghorau yn llunio CDLl. Nod y cynlluniau newydd yw gwneud y system cynllun datblygu'n fwy perthnasol, cynhwysol ac atyniadol i gymunedau lleol ac annog pobl i gydweithio mwy wrth baratoi'r cynllun gan gynnwys y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat, a ddylai arwain at lunio cynllun fydd yn seiliedig ar gonsensws. Yn ogystal, bwriedir i broses y CDLl arwain at system gwneud cynllun sy'n gyflymach na'r hyn a gafwyd yn y cynlluniau datblygu blaenorol.
Bydd y CDLl yn egluro cynigion a pholisïau’r Awdurdod ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn yr ardal yn y dyfodol. Ar ôl i'r cynllun gael ei fabwysiadu, bydd y penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio yn cael eu seilio'n bennaf ar y CDLl. Gellir cael rhagor o gyfarwyddyd ynghylch CDLl Sir Gaerfyrddin a'r broses o’i baratoi, yn ogystal ag ymgynghoriadau presennol a blaenorol, ar y tudalennau gwe hyn. Ceir rhagor o gyfarwyddyd ynghylch CDLl ar wefan Cynulliad Cymru hefyd.
Cyhoeddwyd dogfennau fersiwn adneuo y CDLl at ddibenion ymgynghori o 22 Mehefin 2011 a maent ar gael ar dudalen we fersiwn adneuo y Cynllun Datblygu Lleol. Y dyddiad cau er mwyn derbyn sylwadau oedd 19 Awst 2011 am 4.30pm.
Cyhoeddwyd y ‘Safleoedd Amgen’ a chyflwynwyd ynghylch fersiwn adneuo y CDLl at ddibenion ymgynghori o 25 Ebrill tan 4.30 ar 8 Mehefin 2012. Cliciwch yma i weld y dudalen Safleoedd Amgen.
Derbyniwyd nifer o sylwadau ynghylch fersiwn adneuo y CDLl, yr Adroddiad ar Arfarniad Cynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sydd ddim yn ymwneud yn benodol â safleoedd (cyfeiriwyd atnynt fel Sylwadau Polisi). Mae’r Cyngor yn gwneud rhain ar gael er mwyn eu harchwilio. Mae rhain ar gael u’w gweld trwy clicio yma i weld dudalen fersiwn adneuo y Cynllun Datblygu Lleol. Nid yw cyhoeddiad y sylwadau yma yn rhan o’r ymgynghoriad ar ‘Safleoedd Amgen’ a nid ydynt yn agored i wneud sylwadau arnynt.