Rydym yn ystyried diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn flaenoriaeth uchel yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r Adain Cadwraeth yn gweithio’n egnïol mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r gymuned i helpu i ddarparu amgylchedd o ansawdd uchel, sy’n cadw ei fioamrywiaeth, nodweddion tirluniol a threftadaeth hanesyddol/ddiwylliannol.
Bioamrywiaeth
Ystyr llythrennol hynny yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae’n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw a’r ecosystemau y maen nhw’n dibynnu arnynt. Maent i’w gweld ymhobman o’n cwmpas, mewn gerddi, parciau, minffyrdd, caeau, mynyddoedd, afonydd ac yn y môr. Adeiladau Rhestredig.