English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Canolfan Datblygu Busnesau Cefn Gwlad 

Canolfan Datblygu Busnesau benodedig yw'r Ganolfan Datblygu Busnesau Cefn Gwlad yn Nant-y-ci. Menter gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw hon, sy'n rhan o'r strategaeth a'r cynllun busnes Datblygu Economaidd. Diben y Ganolfan yw bod yn flaenllaw o ran rhoi cefnogaeth i ddatblygu busnesau newydd, er mwyn ategu ac amrywio'r economi leol. Mae'r Ganolfan yn cynnig cyfleuster siop un-stop lle gall pobl gael cyngor a chyfarwyddyd er mwyn gwella eu busnesau. Adeiladwyd y Ganolfan gyda chymorth cyllid Ewropeaidd a chyllid Adfywio lleol.

 Rural Business Centre

Mae staff y Ganolfan yn gweithredu nifer o'r rhaglenni newydd sydd ar waith yn y rhanbarth ar hyn o bryd, er enghraifft:-

  • Canolfan Gwasanaethau Rhanbarthol- ffoniwch 01267 242395
  • Y Gronfa Buddsoddi Lleol - ffoniwch 01267 242390 neu 01267 242391
  • Datblygu'r Economi Wledig - ffoniwch 01267 242397 neu 01267 242398
  • Grantiau Addasiadau Gwledig - ffoniwch 01267 242338
  • Pecyn Cynnal a Chymorth Busnes - ffoniwch 01267 242331

Mae'r Ganolfan yn darparu gwybodaeth am y llu o raglenni grantiau a rhaglenni datblygu busnesau sy'n gallu rhoi cymorth i fusnesau newydd a busnesau presennol. Os oes angen, gellir trefnu cyfarfodydd rhwng ymgynghorwyr arbenigol a chleientiaid er mwyn datblygu syniadau newydd neu roi atebion a chymorth i fusnesau presennol.

Pwy Gaiff Ddefnyddio'r Ganolfan? 
Mae'r ganolfan ar agor i holl fusnesau'r rhanbarth, boed yn rhai newydd neu'n rhai sydd wedi eu hen sefydlu. Er bod Amaethyddiaeth a Thwristiaeth yn arbennig o gryf yn y sir, mae ganddi lawer o fusnesau eraill sy'n gysylltiedig ag amrywiol feysydd megis diwydiant ysgafn, crefftau, a phrosesu bwydydd, ynghyd â diwydiant gwasanaethau sy'n cynyddu. Mae croeso i'r rhain i gyd yn y Ganolfan.

Busnesau Presennol
Mae cymorth i fusnesau presennol ar gael yn y ganolfan, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Grantiau ac am y pecynnau cymorth sydd ar gael yn y rhanbarth. Os ydych am ehangu neu newid rywfaint ar eich busnes presennol, neu os ydych yn chwilio am ffyrdd o'i atgyfnerthu, gall y Ganolfan fod o gymorth ichi. 

Busnesau Newydd
Mae'r Ganolfan yn croesawu unrhyw un sydd am ddechrau busnes newydd, boed yn ifanc neu beidio; mae rhaglenni ar gael sy'n gallu helpu pawb i gyflawni eu dyheadau'n llawn. 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 21/1/2011

 
Manylion Cysyllt
 

The Rural Business Development Centre
Nant Y Ci
Carmarthen
Carmarthenshire
SA33 5DR

Fax: 01267 229530