English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Safonau Masnach 
trading standards checking petrol pump measures

Rydym yma i ddiogelu buddiannau defnyddwyr a busnesau.  I gyflawni hyn ein nod yw rheoleiddio a gorfodi cydymffurfiad gyda deddfwriaeth trwy archwilio safleoedd busnes yn unol â'u graddiad categori risg.

Pa Wasanaethau yr ydym yn eu darparu?

Ein nod yw creu amgylchedd masnachu teg ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin.

I gyflawni hyn rydym yn cynnig y Gwasanaethau Safonau Masnach canlynol;

  • Rydym yn archwilio safleoedd masnach a busnes i sicrhau cydymffurfiad gyda deddfau sy'n ymwneud ag ansawdd cynnyrch, diogelwch cynnyrch, masnachu teg, metroleg a phris.
  • Rydym yn profi safonau metroleg yn ein Labordy Metroleg yn Neuadd y Sir, Sir Gaerfyrddin, sydd â Statws Corff Hysbysadwy ar gyfer safonau lleol màs, hyd a chynhwysedd, y gellir eu holrhain i safonau cenedlaethol.
  • Rydym yn darparu cyngor i ddefnyddwyr a busnesau lleol a gwasanaeth ymholiadau penodol ar fasnachu teg, disgrifiadau masnachu, metroleg cyfreithiol, diogelwch cynnyrch a safonau ansawdd.
  • Lle mae'n ymddangos bod masnach neu fusnes wedi mynd yn groes i ddeddfwriaeth amddiffyn defnyddwyr, byddwn yn ymchwilio a chymryd camau priodol, a all gynnwys cychwyn camau cyfreithiol.

Beth yw ein pwerau?

  • Mae gan ein Swyddogion y pŵer i gael mynediad ac archwilio safleoedd masnachu a busnes, archwilio yr holl nwyddau a dogfennau, prynu a chymryd samplau.
  • Gellir meddiannu a chadw eitemau os yw'r swyddogion archwilio o'r farn y bydd eu hangen fel tystiolaeth os torrwyd unrhyw gyfraith.
  • Mae'n drosedd rhwystro swyddog sy'n ceisio cynnal archwiliad.
  • Nid oes gan Swyddogion Safonau Masnach unrhyw bŵer i gau busnesau neu orfodi ad-daliadau i ddefnyddwyr.
  • Gellir mynd â phob anghydfod sy'n ymwneud â nwyddau neu wasanaethau o ansawdd gwael i'r llysoedd sifil. Y Llysoedd Sifil sydd â'r pŵer i gau busnesau neu orfodi ad-daliadau i ddefnyddwyr.
  • Fe all Safonau Masnach gychwyn camau cyfreithiol yn erbyn masnach neu fusnes, os canfyddir eu bod yn torri deddfwriaeth amddiffyn defnyddwyr.  Os canfyddir eu bod yn euog gallant wynebu dirwy neu mewn achosion eithafol, gellir eu carcharu.
  • Y prif feysydd o gyfraith droseddol a orfodir gennym yw'r canlynol: - pwysau neu fesur byr, diogelwch nwyddau defnyddwyr, disgrifiadau anghywir neu gamarweiniol sy'n ymwneud â nwyddau a gwasanaethau, ffugio cynnyrch, methu arddangos prisiau gwerthu nwyddau ac arddangos prisiau camarweiniol, esgeulustra credyd defnyddwyr a gwerthu nwyddau dan oed.
Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/4/2012
 
Manylion Cysyllt
 

carmarthenshire direct

Ffôn -  01267 234567
E-bost  Safonau Masnach