Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o'r cyflogwyr mwyaf, yn ogystal â bod yn un o'r cyflogwyr mwyaf amrywiol yn Ne-orllewin Cymru, gan gyflogi dros 9000 o weithwyr sy'n gweithio mewn nifer fawr o wahanol alwedigaethau a phroffesiynau.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar hyd a lled y sir wledig hon i boblogaeth o tua 170,000.
Caiff y Cyngor ei reoli gan 74 o gynghorwyr etholedig yn cynrychioli nifer o grwpiau gwleidyddol. Y rhain sy'n gwneud y penderfyniadau ac yn cytuno ar bolisïau'r Cyngor a'r blaenoriaethau o ran gwariant.
Mae 6 chyfarwyddiaeth i'r Cyngor.
Cliciwch ar enwau'r adrannau isod i gael gweld eu strwythur: