English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Tudalen wedi ei diweddaru ar 07/4/2011
Ffurflen Cofrestru Pleidleiswyr 

are you registered to vote?

Er mwyn pleidleisio mewn etholiadau mae angen i chi fod ar y gofrestr etholwyr.

Mae’r ffurflen hon yn casglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i gyhoeddi cofrestr ddiwygiedig, sef rhywbeth a wnawn bob blwyddyn.

Os na fyddwch yn ymateb i’r ffurflen hon mae’n bosibl na fyddwch yn ymddangos ar y gofrestr ddiwygiedig ac fe allech chi golli eich hawl i bleidleisio. Nid yw cofrestru ar gyfer gwasanaethau eraill na thalu Treth y Cyngor yn eich cofrestru i bleidleisio.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi roi’r wybodaeth y gofynir amdani yn y ffurflen hon. A fyddech cystal ag ymateb cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi derbyn ffurflen atgoffa neu ymweliad â'ch cartref. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae ein manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.

Byddwn yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ar 1 Rhagfyr. Bydd y gofrestr ar gael yn y cyfeiriad a roddir isod. Os nad yw eich enw ar y gofrestr neu os yw eich manylion wedi newid ers 15 Hydref, 2010 (er enghraifft, oherwydd eich bod wedi symud) dylech gysylltu â ni ar unwaith.

Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio?

Oedran
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hyn er mwyn pleidleisio. Cewch gofrestru i bleidleisio pan fyddwch yn 16. Rhowch fanylion unrhyw bobl ifanc 16 a 17 oed yn yr eiddo. Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys eu dyddiad geni er mwyn iddynt allu pleidleisio cyn gynted ag y byddant yn 18.

Preswyliaeth
Dim ond ar gyfer y cyfeiriad lle maent yn preswylio y caiff pobl gofrestru. Dylech gynnwys:

  • Pobl sydd i ffwrdd dros dro – er enghraifft, i ffwrdd yn gweithio, ar wyliau, mewn llety myfyrwyr neu mewn ysbyty.
  • Unrhyw breswylwyr, lletywyr neu bobl eraill sy’n aros gyda chi (ond nid ymwelwyr am gyfnod byr) yn eich cyfeiriad.

Cenedligrwydd
Pobl sydd â hawl i gofrestri i bleidleisio:

  • Dinasyddion Prydain
  • Dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
  • Dinasyddion gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.
  • Caiff dinasyddion yr UE eu cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol yn unig (ac eithrio dinasyddion Cyprus, Malta neu Weriniaeth Iwerddon, sy’n cael pleidleisio ym mhob etholiad)
  • Dinasyddion cymwys o’r Gymanwlad. Mae hyn yn
    golygu dinasyddion y Gymanwlad sydd â chaniâtad i
    ddod i’r DU neu aros yma; neu nad oes angen caniatâd
    o’r fath arnynt.

Manylion y bobl yn y cyfeiriad hwn
Ar gyfer pob unigolyn, bydd angen i chi gynnwys:

  • Enw: Cyfenw, enw cyntaf a llythrennau cyntaf enw(au) canol
  • Cenedligrwydd: Ceir yr wybodaeth hon oddi ar basport yr unigolyn
  • A fydd yr unigolyn yn 70 oed neu’n hyn ar 15 Hydref, 2010. Os felly, cant eu heithrio o wasanaeth rheithgor
  • A yw’r unigolyn eisiau cael ei eithrio o’r gofrestr olygedig - gweler manylion isod.
  • A yw’r unigolyn eisiau ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post. Nid oes angen i chi dicio’r blwch hwn os yw’r unigolyn eisoes yn pleidleisio drwy’r post.

Beth yw’r cofrestri ‘llawn’ a ‘golygedig’?
Mae’r gofrestr lawn yn rhestru enw a chyfeiriad pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Mae'r Cyngor yn cadw copi ohoni. Caiff unrhyw un edrych arni, ond mae cyflenwi copïau neu ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill, ac eithrio’r rheini a nodir yn y gyfraith, yn drosedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.fymhleidlaisi.co.uk

Prif ddiben y gofrestr lawn yw dangos pwy all bleidleisio mewn etholiadau a referenda. Caiff asiantaethau gwirio credyd ei defnyddio, ond dim ond i wirio eich enw a’ch cyfeiriad os ydych yn gwneud cais am gredyd ac at ddibenion eraill a nodir yn y gyfraith. Gellir ei defnyddio hefyd i orfodi’r gyfraith.

Mae’r gofrestr olygedig ar gael ar gyfer ei gwerthu’n gyffredinol a gellir ei defnyddio at unrhyw ddiben. Caiff unrhyw unigolyn, cwmni neu sefydliad brynu’r gofrestr wedi’i golygu a cheir ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata. Os nad ydych eisiau i’ch manylion ymddangos ar y gofrestr olygedig, ticiwch y blwch ‘Cofrestr Olygedig’. Rhaid i chi hefyd ofyn i bob unigolyn a enwir ar y ffurflen a ydynt eisiau cael eu heithrio o’r gofrestr olygedig.

Bydd tic a argraffwyd eisoes yng Ngholofn A.iv yn dweud wrthych am ddewis yr etholwyr y llynedd, a bydd hyn yn berthnasol i’r Gofrestr newydd oni bai iddo gael ei ddileu gan y person cofrestredig.

Beth os ydw i'n symud tŷ cyn 15 Hydref?
Os ydych chi'n symud o'r cyfeiriad hwn cyn 15 Hydref, ac os bydd yr eiddo o dan sylw yn wag ar y dyddiad hwnnw, a fyddech cystal â dileu'r holl enwau yn rhan A, ticio'r blwch perthnasol yn rhan B, llofnodi'r ffurflen a'i dychwelyd atom ni. Os bydd pobl newydd yn byw yn yr eiddo ar/cyn 15 Hydref, a fyddech cystal â gadael y ffurflen yn yr eiddo. Os nad oes ffurflen yn eich cyfeiriad newydd, a fyddech cystal â chysylltu â'n Llinell Gymorth.

Sut i gysylltu â ni:
Cofrestru Etholiadol
1 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE
Llinell Gymorth: 01267 228889
e-bost: gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk

 
Manylion Cysyllt
 
Cofrestru Etholiadol
1 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE
Llinell Gymorth: 01267 228889
e-bost