Gallwch wneud cais i bleidleisio trwy'r post neu drefnu pleidlais brocsi - hynny yw, cael rhywun i bleidleisio ar eich rhan.
Pleidleisiau Post
Yn lle mynd i'ch gorsaf bleidleisio gallwch wneud cais am bleidlais bost. Mae Pleidleisiau Post ar gael i bawb a gellir eu danfon i unrhyw gyfeiriad, hyd yn oed dramor, ond cofiwch fod rhaid i'ch papur pleidleisio gyrraedd yn ôl inni cyn cau'r pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Yna rhaid danfon y ffurflen gais i'r cyfeiriad hwn:
Uned Gwasanaethau Etholiadol
1 Heol Spilman
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1LE
Codi Dogfennau
Canllaw cyflym i bleidleisio drwy’r post
Pleidleisio Procsi
Os na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad gallwch wneud cais i gael pleidlais brocsi. Ystyr hynny yw eich bod yn penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Yna mae'r person hwnnw neu honno yn mynd i'r orsaf bleidleisio a bwrw eich pleidlais. Er mwyn cael ffurflen gais cysylltwch â'r Uned Gwasnaethau Etholiadol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen gais yw chwe niwrnod cyn diwrnod yr etholiad (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc) ac eithrio mewn perthynas ag achosion a salwch neu analluogwydd na fu modd eu rhagweld sy'n digwydd ar ol y dyddiad hwnnw. Yn yr amgylchiadau hynny gellir cyflwyno ceisiadau hyd at 5 y.h ar ddydd yr etholiad.
Pleidleisio drwy'r post / Pleidleisio drwy ddirprwy
Os nad yw eich dirprwy yn mynd i fod gartref diwrnod yr etholiad, gall wneud cais am i'w bapur pleidleisio drwy ddirprwy gael ei bostio ato/ati. I gael ffurflen gais, cysylltwch â'r Uned Gwasanethau Etholiadol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais yw chwe diwrnod cyn diwrnod yr etholiad (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Am rhagor o wybodaeth ar ffyrdd o bleidleisio, ymwelwch â www.fymhleidlaisi.co.uk