Nid oes angen i chi fynd ar eich gwyliau i'r Alpau i ddysgu sut y mae sgïo ac eirfyrddio; mae modd meistroli'r campau hyn heb fynd yn agos at fynydd nac eira.
Yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre mae gennym ardal benodol ar gyfer sgïo ac un arall ar gyfer eirfyrddio, a hynny er mwyn diwallu anghenion ein holl gwsmeriaid. P'un a ydych yn mynd i sgïo neu eirfyrddio am y tro cyntaf, yn gwella eich techneg, neu'n trefnu ymweliad gan grŵp, mae gan y ganolfan rywbeth i'w gynnig i chi.
Mae'r Ganolfan ym Mharc Gwledig Pen-bre, lle mae golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr ac arfordir Bae Caerfyrddin, ac mae'r cyfleuster hwn yn un o'r rhai mwyaf modern yng Nghymru gyfan.
Agorwyd y ganolfan ragorol hon yn 1998, ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae yno Gaban Sgïo a Chaffi, prif lethr 130 metr â llifoleuadau, llethr lai sy'n 40 metr ac iddi systemau taenellu dŵr a lifft botwm, lle i logi beiciau mynydd, a llwybr tobogan gwych y "Cobra".