Mae nifer o barciau, meysydd chwarae a mannau agored yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r tîm Cynnal a Chadw Tiroedd yn yr Adran Gwasanaethau Stryd yn gyfrifol am eu cynnal a'u cadw nhw.
Mae ystod o gyfleusterau ar gael ichi boed eich bod yn dymuno mynd â'ch plant i le chwarae, mynd i gerdded yn y parc neu gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'r rhain yn cynnwys:
• 40 Parc
• 121 Lle Chwarae
• 61 Cae Rygbi/Pêl-droed
• 10 Cae Criced
• 26 Cwrt Tennis
• 14 Lawnt Bowlio
• 8 Pwll Padlo
• 11 Llecyn amrywiol chwaraeon
• 8 Llecyn Sglefyrddio
• 2 Lwybr Cerdded ar lan Afon
Lleoedd Chwarae
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin 121 o leoedd chwarae sydd â chyfleusterau ar gyfer defnyddwyr o bob oedran. Mae'r lleoedd chwarae yn amrywio mewn maint a lleoliad a chânt eu harchwilio'n gyson er mwyn sicrhau eu bod nhw'n parhau i gydymffurfio â'r gofynion iechyd a diogelwch.
Ein nod yw darparu lleoedd chwarae heriol, hwylus a diogel sydd ar gael i bawb. Rydym yn cydnabod fod chwarae yn hanfodol i blant a phobl ifanc fel modd o wneud ffrindiau ac i ddysgu amdanyn nhw eu hunain yn ogystal ag am y byd o'u cwmpas.
Mae offer chwarae traddodiadol megis siglenni a throgylchoedd ar gael ynghyd â llecynnau ar gyfer plant hŷn, er enghraifft rampiau sglefyrddio a mannau agored.
Cyfleusterau chwaraeon
Mae gan y Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tiroedd ystod o feysydd chwarae awyr agored i'w llogi mewn gwahanol barciau o amgylch y Sir.
Mae caeau pêl-droed a rygbi ar gael yn ystod y gaeaf a chaeau criced, cyrtiau tennis a lawntiau bowlio ar gael yn ystod yr haf. Mae gan y rhan fwyaf o'r cyfleusterau hyn ystafelloedd newid a chawodydd.