
Cynghrair Pel-rwyd (Cymysg)
Cynghrair gyffrous i ddynion a menywod o bob gallu. Mae timau yn chwarae yn y gynghrair unwaith y mis mewn cyfleusterau cymunedol ledled y sir, pan fydd ffrindiau, teulu a chydweithwyr yn dod ynghyd i gymryd rhan mewn gêm fywiog sy'n llawn hwyl. I ymuno â'r gynghrair neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Datblygu Pêl-rwyd.
Ganolfan Datblygu Pel-rwyd, Sir Gar
Mae merched a bechgyn o bob cwr o'r sir yn dod ynghyd i ddatblygu sgiliau yng Nghanolfan Datblygu Pêl-rwyd Sir Gaerfyrddin bob mis. Mae'r timau dan 11 oed a dan 14 oed yn ymarfer bob wythnos ac yn cwrdd unwaith y mis i chwarae mewn cystadleuaeth fel rhan o'r fenter hon sy'n dod yn fwy poblogaidd.