Mae Campau'r Ddraig yn cynnig hwyl a chyfleoedd chwaraeon priodol i blant oed ysgol. Diben cynllun Campau'r Ddraig yw ehangu diddordebau chwaraeon plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon arbennig a sicrhau cyfranogiad plant nad ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath y tu allan i wersi AG yr ysgol.
Lansio Clwb Athletau Newydd ar gyfer y Dreigiau Ifanc!
Mae'r gwn cychwyn ar fin tanio yn achos clwb athletau newydd i blant dan 9 oed yn ardal Llanelli. Mae'r clwb wedi cael ei sefydlu gan Gampau'r Ddraig ar y cyd â Harriers Llanelli, er mwyn darparu gweithgareddau athletau sy'n hwyl. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Gweithgareddau Campau'r Ddraig-
- wedi cael eu haddasu i fod yn addas ar gyfer oedran, maint, gallu, lefel sgil a phrofiad
- yn defnyddio rheolau syml, offer a mannau chwarae llai, a hyfforddiant ac ymarferion hwyliog
- yn paratoi chwaraewyr ar gyfer gem yr oedolion
- yn debyg iawn i'r chwaraeon maent wedi'u seilio arnynt
- yn ddiogel, ond yn cynnig her
Chwaraeon Ffocws
A total of eight sports are available in the Dragon Sport scheme. Gellir eu cyflwno yn ddiogel ac yn rhwydd a cheir digon o offer a chfleusterau.
Addasu Gweithgareddau
Ydych chi'n teimlo bod gweithgareddau Campau'r Ddraig yn rhy hawdd neu'n rhy anodd? Ydych chi eisiau newid y gweithgaredd a'i wnued yn fwy cyffrous? Dysgwch sut i addasu gweithgareddau trwy ddefnyddio InSTEPS!
A oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli?
Mae Campau'r Ddraig wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu â'r clybiau a gall pobl helpu mewn sawl ffordd - trwy hyfforddi, paratoi'r offer, cofrestru, goruchwylio grwpiau ac ati. Nid oes yn rhaid i chi fod yn gyn-chwaraewr dros Gymru nac yn hyfforddwr arbennig ar gyfer plant ifanc. Rydym yn chwilio am bobl sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac sy'n awyddus i sicrhau bod chwaraeon yn gyfystyr â chael HWYL!
Achredu Campau'r Ddraig
Cafodd ‘Achredu Campau'r Ddraig yn Sir Gaerfyrddin’ ei lansio ym mis Mawrth 2008 er mwyn cynnig cyfle i ysgolion dderbyn cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i ddatblygu gweithgaredd corfforol allgyrsiol drwy Gynllun Campau'r Ddraig. A allai eich ysgol dderbyn tystysgrif Achredu Campau'r Ddraig?