Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Chwaraeon Cymru wedi cefnogi rôl Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd ers 2002.
Prif ddyletswyddau’r Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd yw: -
- Arwain datblygiad strategol, a gweithrediad, chwaraeon anabledd yn Sir Gaerfyrddin a chyfrannu tuag at nodau cenedlaethol cynllun Chwaraeon Anabledd Cymru.
- Hwyluso ystod eang o gyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol sy’n adlewyrchu a chyflawni anghenion y gwahanol anhwylderau a galluoedd yn y Sir.
- Cydlynu a goruchwylio Clwb Chwaraeon a Gweithgareddau Anabledd Sir Gaerfyrddin