English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/9/2011
Datblygu’r Celfyddydau 

Rydym wedi ymrwymo i egni creadigol y sir a gwneud yn fawr o rôl diwylliant ym mywyd cymdeithasol, economaidd a chymunedol yr ardal.

Mae Gwasanaethau Celfyddydau’r Sir wrthi ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfleusterau a’r hyn y gallant ei gynnig ac ar gryfhau ein cysylltiadau gyda mudiadau lleol, y sector addysg a chynulleidfaoedd.

Mae cyfleusterau celfyddydau’r Sir yn darparu ar gyfer arddangosfeydd, perfformiadau, gweithdai, darlithiau a ffilmiau. Rydym yn gweithio gyda llyfrgelloedd ac amgueddfeydd sydd hefyd yn darparu ar gyfer arddangoswyr mwy hanesyddol a chymunedol eu naws a gweithdai llenyddol a grwpiau darllen.

Y tu allan i’n canolfannau gweithgareddau rydym yn cefnogi ‘celfyddyd yn y gymuned’, ac yn arbennig felly LLAIS, mudiad ymbarél y sir ar gyfer theatrau ieuenctid, rydym yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i drefnu NOSON ALLAN sy’n rhoi cymorthdal ar gyfer cynyrchiadau mewn neuaddau cymunedol, yn annog Fforwm Celfyddydau Sir Gaerfyrddin a’i chwaer fudiad Crefftau o Sir Gaerfyrddin i hyrwyddo gwaith celfyddydol cymwysedig yn yr ardal ac yn ceisio datblygu Fforwm Dawns.

Mae Sir Gaerfyrddin hefyd yn gartref i bum mudiad celfyddydol sy’n gweithio i ddatblygu’r celfyddydau ac sy’n cael eu hariannu’n genedlaethol. Y mudiadau hynny yw swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chynulleidfaoedd Cymru yn y canolbarth a’r gorllewin, canolfan gynhyrchu Theatr Genedlaethol Cymru, Gofal Celf ac Oriel Myrddin, sy’n cael ei rheoli gan y Cyngor Sir.

Mae darparwyr datblygu’r celfyddydau eraill yn cynnwys y rhwydwaith o Fentrau Iaith yn y sir, gwasanaethau ieuenctid y Sir, a gwasanaethau cerddoriaeth y Sir. Mae dau goleg y Sir yn trefnu cyrsiau a gweithgareddau celfyddydol eraill ar eu campwsau ac yn y gymuned.

 
Manylion Cysyllt
 
Hamdden
Tŷ'r Nant, Parc Busnes Trostre
Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 9UT
E-bost: hamdden@sirgar.gov.uk
Rhif ffôn:01267 228236