Mae swyddogion Gorfodi Materion Amgylcheddol y Cyngor yn ymchwilio i achos difrifol o dipio anghyfreithlon yng Nghwm Gwendraeth.
Gwaredwyd nifer o fagiau du a bagiau glas, oergell-rewgell, blychau cardbord a sbwriel arall mewn cilfan yn Heol Mansant, ger y Meinciau.
Mae'r swyddogion yn gofyn i'r cyhoedd a oes ganddynt unrhyw wybodaeth a allai helpu’r Cyngor i ddal y sawl a oedd yn gyfrifol am daflu'r sbwriel.
Credir bod y troseddwyr wedi defnyddio lori fach debyg i Ford Transit oedd â chefn agored ynghyd â chab gwyn a chefn glas.
Hefyd mae'r swyddogion yn awyddus i siarad â dyn o'r enw 'Tom’ y credir ei fod yn byw mewn carafan yng nghyffiniau Pont-iets ac a allai eu helpu i adnabod y troseddwyr.
Dywedodd Richard Workman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn annheg i'r trigolion lleol sy'n gorfod goddef yr annibendod ofnadwy hwn ar eu trothwy.
“Mae tipio anghyfreithlon yn amharu ar ansawdd bywyd pobl ac yn anharddu'r amgylchedd, ond hefyd mae'n gallu achosi llygredd difrifol a bod yn beryglus i iechyd pobl a bywyd gwyllt. Ar ben hynny mae clirio sbwriel sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon yn costio degau o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn i'r awdurdod, ac mae hwnnw'n arian y gellid ei wario ar bethau llawer mwy buddiol.”
Hefyd mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, a gallai troseddwr gael dirwy o hyd at £50,000 a/neu ei garcharu am hyd at bum mlynedd.
Mae'r Cynghorydd Jim Jones, Cadeirydd Pwyllgor Craffu - yr Amgylchedd, wedi condemnio ymddygiad anghyfrifol y troseddwyr hyn.
Fe ychwanegodd: “Mae'r Cyngor yn benderfynol o atal tipio anghyfreithlon ac mae'n gweithio'n diflino i wella'r amgylchedd yn Sir Gaerfyrddin.
“Ond mae gennym ni oll ein cyfraniad o ran cadw ein cymunedau'n lân, a byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a allai helpu i ddal y troseddwyr i gysylltu â'r Cyngor.”
Mae'r Cyngor, fel rhan o ymgyrch Taclo Tipio Cymru, yn gweithio'n ddygn i gael gwared â phroblem tipio anghyfreithlon, a hynny drwy gydweithio â phartneriaid megis yr Heddlu, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chadwch Gymru'n Daclus.
Mae Taclo Tipio Cymru yn rhan o fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sy'n cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Gary Evans, Rheolwr Prosiect Taclo Tipio Cymru yn y Cymoedd: “Buddsoddir mwy na £25 miliwn yn y Cymoedd i helpu i ddatblygu potensial yr ardal fel cyrchfan i dwristiaid, ac allwn ni ddim gadael i bobl anharddu ein cymunedau a difetha cefn gwlad drwy daflu sbwriel.
“Yn sgil bod nifer o asiantaethau'n cydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r bobl sy'n tipio'n anghyfreithlon, a hynny drwy rannu gwybodaeth a thrwy ddefnyddio technegau cudd-wylio, llwyddwyd i arestio unigolion a dwyn achosion llys llwyddiannus yn eu herbyn. Rydym yn gobeithio y bydd y cydweithio hwn yn helpu Cyngor Sir Caerfyrddin i ddal y troseddwyr.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn neu os gallwch roi gwybodaeth am 'Tom' neu ynghylch sut mae dod o hyd iddo, cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567.
