Diolch am ymweld â thudalen swyddi Cyngor Sir Caerfyrddin. Gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i ddarllen tudalennau eraill ar y wefan.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o'r cyflogwyr mwyaf a mwyaf amrywiol yn Ne Orllewin Cymru.
Mae'n cyflogi dros 9000 o weithwyr sy'n gweithio mewn amrywiaeth eang o swyddi ac yn darparu gwasanaethau mewn sir wledig hardd sydd â rhyw 170,000 o drigolion.
Os ydych chi am ymuno â ni edrychwch ar y mynegai swyddi gwag. Os gwelwch swydd sy'n mynd â'ch bryd mae croeso i chi lwytho'r manylion a'u hargraffu.
Darperir disgrifiad o'r swydd (proffil swydd) a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith (manyleb person). Paratowyd nodiadau cyffredinol i'ch helpu i wneud cais ynghyd â chopi o'r ffurflenni y bydd angen i chi eu llwytho, eu hargraffu a'u llenwi.
Fel arall cewch ffonio neu anfon e-bost yn gofyn am becyn cais drwy gysylltu â'r is-adran berthnasol a rhoi cyfeirnod y swydd iddynt.
