Mae gan Sir Gaerfyrddin dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol. Dewch i ddarganfod y dreftadaeth honno yn ein hamgueddfeydd lleol cyfeillgar. Credwn fod gennym rywbeth at ddant pawb.

Mae gan bob un o'n chwe amgueddfa stori wahanol i'w hadrodd. Yn Amgueddfa'r Sir yn Abergwili hoelir sylw ar hanes dyn yn y sir dros y 50,000 blynedd diwethaf, ac ar ddathlu ein tirwedd ogoneddus.
Ym Mharc Howard gallwch ddysgu sut y daeth Llanelli yn brifddinas tunplat y byd, ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli yw'r enghraifft orau sydd wedi goroesi o hen waith tunplat.
Mae'r Amgueddfa Cyflymder yn cofnodi'r cyfnod cyffrous pryd yr oedd ceir a beiciau modur yn heidio i eangderau traeth Pentywyn i rasio yn erbyn ei gilydd neu i roi cynnig ar record cyflymder y byd.
Yn yr orielau bychain yng Nghaerfyrddin ac yn Rhydaman adroddir hanes y ddwy dref bwysig hyn - y naill yn hynafol a'r llall wedi ei sefydlu yn sgil y diwydiannau glo a thun ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ni chodir tâl am gael mynediad i'n hamgueddfeydd.