
Tystysgrifau Perfformiad Ynni a chartrefi newydd: Canllaw i adeiladwyr
O 6 Ebrill 2008, dan y gyfraith, bu’n rhaid darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr holl gartrefi newydd a chartrefi newydd eu hadeiladu a gwblheir ar ôl y dyddiad hwnnw.
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni’r adeilad a gellir cael gwybodaeth bellach yn y daflen hon.
Canllaw i bobl sy’n prynu ac yn gwerthu tai ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni
Mae’r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn ddogfen orfodol a gynhwysir mewn Pecyn Gwybodaeth am Eiddo. Bydd angen i unrhyw un sy’n rhoi tŷ ar werth gomisiynu Pecyn Gwybodaeth am Eiddo y mae’n rhaid iddo gynnwys Tystysgrif Perfformiad Ynni yn seiliedig ar yr asesiad ynni o’u tŷ.
Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno Tystysgrifau Perfformiad Ynni er mwyn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am effeithlonrwydd ynni tŷ y maent yn ystyried ei brynu.
Tystysgrifau Perfformiad Ynni a rhentu tai: Canllaw i landlordiaid
O 1 Hydref 2008, mae’n ofynnol i landlordiaid ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni pan maent yn rhentu tŷ.
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni’r eiddo yr ydych am ei osod a gellir cael gwybodaeth bellach yn y daflen hon.
Tystysgrifau Perfformiad Ynni a rhentu tai: Canllaw i denantiaid
O 1 Hydref 2008, mae’n rhaid i landlordiaid roi Tystysgrif Perfformiad Ynni i bobl sydd eisiau rhentu tŷ oddi wrthynt.
Mae tystysgrif perfformiad ynni yn rhoi gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni’r tŷ yr ydych am ei rentu.