Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol 
Documents

Mae'r Cyngor yn cynhyrchu Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol i roi rhagor o fanylion am rai polisïau penodol a'r cynigion a nodir yng Nghynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin.

Nid oes i'r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol yr un statws â'r polisïau cynllun datblygu mabwysiedig. Fodd bynnag, cyngor y Llywodraeth yw y ceir eu trin yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Ar hyn o bryd, mae'r ddwy ddogfen ganlynol yn symud ymlaen at gael eu mabwysiadu yn Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol:

Burry Port Harbour

Harbwr Porth Tywyn

Mae'r Cyfarwyddyd wedi cael ei lunio yng nghyd-destun Cynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin. Mae'r drafft wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac erbyn hyn yn symud ymlaen at gael ei fabwysiadu'n ffurfiol yn Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol.


Fferm Wynt Fforest Brechfa

Cafodd Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar gyfer Fferm Wynt Fforest Brechfa ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar 18 Gorffennaf 2008. Gellir lawrlwytho'r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol uchod.  


Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Ardal Breswyl Gogledd Llandeilo

Llandeilo Development Brief

The Lluniwyd y Cyfarwyddyd drafft yng nghyd-destun Cynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin.  Bu ymgynghori cyhoeddus ynghylch y ddogfen o 17 Awst hyd 6 Tachwedd 2009.

Ar 10fed Chwefror 2010, penderfynodd y Cyngor Sir symud ymlaen i fabwysiadu'r Cyfarwyddyd yn ffurfiol yn Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol mewn perthynas â Chynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin.

l Dogfen i'w lawrlwytho: y Fersiwn Drafft o'r Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu (pdf 16,232 KB)


Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Gorllewin Caerfyrddin Dec 2010 

West Carmarthen Planning and Development Brief

Mae'r Cyfarwyddyd yn amlinellu'r dyheadau ynghylch datblygu Gorllewin Caerfyrddin yn y dyfodol a dylid ei ddefnyddio yn ganllaw ynghylch Ehangu Gorllewin Tref Caerfyrddin drwy ddatblygu cynaliadwy.

Bydd y Cyfarwyddyd hwn yn Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol i Gynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin a bydd yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar bob cais cynllunio yn y dyfodol yn ardal y Cyfarwyddyd.

Cymeradwyodd y Cyngor Sir Gyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Gorllewin Caerfyrddin at ddibenion ymgynghori â'r cyhoedd ar 20 Hydref 2010 ac mae'r ymatebion a ddaeth i law bellach yn cael yr ystyriaeth briodol.

l Dogfen i'w lawrlwytho: Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Gorllewin Caerfyrddin (pdf 28 mb)






 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 21/5/2012
 
Manylion Cysyllt
 

Blaen Gynllunio
Y Gwasanaethau Cynllunio
40 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LQ

E-bost:
blaengynllunio@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio