Harbwr Porth Tywyn
Mae'r Cyfarwyddyd wedi cael ei lunio yng nghyd-destun Cynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin. Mae'r drafft wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac erbyn hyn yn symud ymlaen at gael ei fabwysiadu'n ffurfiol yn Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol.
Fferm Wynt Fforest Brechfa
Cafodd Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar gyfer Fferm Wynt Fforest Brechfa ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar 18 Gorffennaf 2008. Gellir lawrlwytho'r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol uchod.
Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Ardal Breswyl Gogledd Llandeilo

The Lluniwyd y Cyfarwyddyd drafft yng nghyd-destun Cynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin. Bu ymgynghori cyhoeddus ynghylch y ddogfen o 17 Awst hyd 6 Tachwedd 2009.
Ar
10fed Chwefror 2010, penderfynodd y Cyngor Sir symud ymlaen i fabwysiadu'r Cyfarwyddyd yn ffurfiol yn Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol mewn perthynas â Chynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin.
l Dogfen i'w lawrlwytho: y Fersiwn Drafft o'r Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu (pdf 16,232 KB)
Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Gorllewin Caerfyrddin Dec 2010

Mae'r Cyfarwyddyd yn amlinellu'r dyheadau ynghylch datblygu Gorllewin Caerfyrddin yn y dyfodol a dylid ei ddefnyddio yn ganllaw ynghylch Ehangu Gorllewin Tref Caerfyrddin drwy ddatblygu cynaliadwy.
Bydd y Cyfarwyddyd hwn yn Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol i Gynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin a bydd yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar bob cais cynllunio yn y dyfodol yn ardal y Cyfarwyddyd.
Cymeradwyodd y Cyngor Sir Gyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Gorllewin Caerfyrddin at ddibenion ymgynghori â'r cyhoedd ar 20 Hydref 2010 ac mae'r ymatebion a ddaeth i law bellach yn cael yr ystyriaeth briodol.
l Dogfen i'w lawrlwytho: Cyfarwyddyd Cynllunio a Datblygu Gorllewin Caerfyrddin (pdf 28 mb)