
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu ar ran consortiwm awdurdodau lleol De-orllewin Cymru ac mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru i ddarparu Cronfa Datblygu Eiddo. Mae’r gronfa hon yn cynnig cymorth er mwyn datblygu adeiladau parod at ddefnydd diwydiannol/masnachol gyda’r prif nod o greu cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd penodol o Dde-orllewin Cymru. Yn ogystal, bwriad y Cynllun yw annog datblygu adeiladau o safon ‘Rhagoriaeth’ BREEAM ar draws y rhanbarth.
Y Safleoedd dan Sylw
Mae’r rhaglen yn gweithredu ym mhedwar Awdurdod Lleol De-orllewin Cymru sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Dim ond i rai safleoedd dynodedig neu strategol ar draws y rhanbarth y mae’r gronfa’n berthnasol. I gael copi o’r rhestr lawn o safleoedd strategol, anogir datblygwyr i gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin.
Y Gyfradd Ymyrryd
Dylid cynnal arfarniad o’r datblygiad i bennu lefel y cyllid yr ymgeisir amdano a dylai adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a ragwelir bydd costau cyfalaf y cynllun a’r hyn a ragwelir bydd gwerth yr eiddo ar y farchnad ar ôl ei gwblhau. Gall y canlynol effeithio ar lefel y cyllid a gynigir:
- Y lleiafswm a ystyrir yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r prosiect
- Gwerth y prosiect i'r economi lleol yn seiliedig ar nifer y swyddi a'u math; yr arwynebedd llawr a fydd ar gael; y tir sydd i'w ddatblygu a nifer y mentrau bach a chanolig eu maint a gynorthwyir
- Yr awdurdod lleol perthnasol fydd yn penderfynu uchafswm y cyllid a roddir i bob prosiect
Mae'r cyllid yn cael ei reoli gan gyfraddau ymyrryd a bennir ar sail maint masnachol yr ymgeisydd – dyma'r canllawiau:
| 50% |
Menter fach h.y. <50 o weithwyr, trosiant blynyddol nad yw'n fwy na 10 miliwn ewro. |
| 40% |
Menter ganolig ei maint h.y. <250 o weithwyr, trosiant blynyddol nad yw'n fwy na 50 miliwn ewro. |
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Alwyn Thomas, Swyddog Datblygu'r prosiect, rhif ffôn 01269 590208 neu danfonwch ebost at AlJThomas@carmarthenshire.gov.uk
