
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i gael cyllid grant gwerth tua £11m i adfywio’r Sir Gaerfyrddin wledig yn rhan o ail gam Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.
Rhaglen gyllido Ewropeaidd yw'r Cynllun Datblygu Gwledig, er mwyn helpu i adfywio ardaloedd gwledig.
Rheolir Rhaglen y CDG ar y cyd gan y Grŵp Cefn Gwlad a Chyngor Sir Caerfyrddin sef y Corff Arweiniol.
Yn ystod y cam cyntaf o gymorth ariannol cymeradwywyd buddsoddiad gwerth mwy na £8m i gyllido amrywiaeth o gefnogaeth gan gynnwys cyngor busnes; gwelliannau amgylcheddol yn y prif aneddiadau gwledig; a grantiau ar gyfer gwella mynediad i wasanaethau gwledig.
Yn dilyn llwyddiant Cam 1, bydd y cam hwn yn lansio 7 cynllun newydd wrth i Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr geisio adfywio ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin. Mae manylion y cynlluniau a gafodd eu cymeradwyo i’w gweld ar y dudalen nesaf.
Dyma grynodeb byr o’n cynlluniau grantiau cyfredol a’u hamcanion:
Cefnogi Ffermwyr i Arallgyfeirio
Cymorth ariannol i ffermwyr i arallgyfeirio i feysydd nad ydynt yn ymwneud ag amaethyddiaeth.
Atgyfnerthu Apêl y Sir Gaerfyrddin Wledig i Dwristiaid
Cymorth ariannol i uwchraddio llety/cyfleusterau presennol, diogelu cyfleoedd cyflogaeth presennol a chreu rhai newydd yn y sector twristiaeth. Rydym am annog gweithrediadau twristiaeth i fod yn fwy ‘gwyrdd’ a helpu i estyn y tymor a hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan o ansawdd ar hyd y flwyddyn.
Entrepreneuriaeth Wledig
Cefnogi twf microfentrau, hyrwyddo entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc, mentora cynaliadwyedd amgylcheddol, a grantiau i addasu adeiladau gwag at ddibenion busnes.
Dewis Menter
Grantiau Adeiladau Gwledig Diangen
Mentro - 16-30 blwydd oed
Adfer
Gwelliant Sgilliau Sir Gar
Gweithdai a seminarau ar gyfer darparwyr gwasanaethau i dwristiaid, a hyfforddiant ar gyfer defnyddio sgiliau treftadaeth ym maes adeiladu.
Cynhwysiad Cymunedau Gwledig
Mae pecyn cymorth cynhwysfawr ar gael ar gyfer cymunedau, yn cynnwys cymorth mentora a grant sydd wedi’i greu i gynyddu mynediad i wasanaethau a chyfleusterau sylfaenol mewn cymunedau gwledig.
Grantiau Tirwedd a Threftadaeth Sir Gaerfyrddin
Y nod yw diogelu a gwella treftadaeth naturiol yr ardal, a hybu treftadaeth ddiwylliannol leol cymunedau gwledig.
Canolbwyntiau Arloesol
Hybu cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol amgylcheddol o fewn y 5 dalgylch, neu ‘ganolbwynt’, yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin: Llandeilo/Llanymddyfri, Castellnewydd Emlyn/Dre-fach Felindre, Llanybydder/Llanbedr Pont Steffan, Hendy-gwyn/ Sanclêr, a Chaerfyrddin.

Datgloi Cyfalaf Gwledig
Canfod a recriwtio gwirfoddolwyr lleol sy’n gallu helpu i gael hyd i ffyrdd newydd, arloesol o wella gwasanaethau gwledig a chynnwys pobl sydd wedi eu heithrio’n gymdeithasol ac ar y cyrion
Cryfhau Cymunedau
Hybu cydweithredu cryfach yn lleol, cyfnewid syniadau ac arfer gorau rhwng grwpiau a chymunedau
Dathlu Diwylliant
Ehangu mynediad i ddigwyddiadau diwylliannol o ansawdd
Cymunedau Blaengar
Helpu i ddatblygu syniadau blaengar yn y gymuned
Clystyrau Twristiaeth Wledig
Meithrin rhwydweithiau twristiaeth lleol i ddatblygu prosiectau newydd yn Sir Gaerfyrddin
Sgiliau byw
Gweithio gyda rhieni a gofalwyr plant ifanc i wella’u dewisiadau ffordd o fyw
Dyfodol Di-garbon
Gweithio ar gynaliadwyedd amgylcheddol gyda busnesau a’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghaerfyrddin
Ffoniwch (01267) 242364

