Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno Grant Addasiadau yng Nghefn Gwlad, a fydd yn cynorthwyo busnesau bychain i droi adeiladau diangen yng nghefn gwlad yn rhai y gellir eu defnyddio ar gyfer busnes, naill ai gan greu swyddi newydd, neu gan ddiogelu swyddi presennol.
Ariannir y Grant trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae'n cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Meini Prawf Asesu a Blaenoriaethau
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd y Cyngor Sir yn asesu'r prosiect yn erbyn amrywiol feini prawf fel a ganlyn:-
- Nifer y swyddi newydd parhaol a grëir.
- Nifer y swyddi a ddiogelir.
- Nifer yr adeiladau a gaiff eu gwella.
- Gwerth am Arian – ar sail canran y grant y gofynnir amdano yng nghyswllt cyfanswm costau cymwys y prosiect.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau fydd yn dod â buddiannau amlwg i’r economi leol o ran nifer ac ansawdd y swyddi uniongyrchol a gaiff eu creu, a bydd y grant yn amodol ar hynny.
Pwy sy’n Gymwys
Gall unigolion, partneriaethau, cwmnïau bach cyfyngedig, cwmnïau cydweithredol, ymddiriedolaethau elusennol a sefydliadau gwirfoddol gyflwyno cais
Rhaid bod yr adeilad i'w ddatblygu wedi'i leoli yn ardal y CDG (insert link here to map / list of eligible wards overleaf)
Mae'r grant wedi'i fwriadu ar gyfer busnesau bychain. Y diffiniad o fusnesau bychain yw busnesau sy'n cyflogi llai na 10 o staff cyfwerth amser llawn ac sy'n meddu ar drosiant a mantolen o lai na 2 filiwn ewro.
Ni fydd grantiau ar gyfer gwaith ar eiddo ar gael ond i berchnogion y buddiant rhydd-ddaliad yn yr eiddo neu i ddeiliaid prydles sydd i barhau am o leiaf pymtheg mlynedd arall ar y dyddiad pan ragwelir talu'r grant, ac sydd wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig y landlord i gwblhau'r gwaith arfaethedig
Nid yw'r grant ar gael i newid neu adnewyddu adeiladau diangen at ddibenion preswyl, twristiaeth, amaethyddol na garddwriaethol.
Mae gwaith anghymwys yn cynnwys:- gwaith adnewyddu'n unig, lle na fydd defnydd adeilad yn cael ei newid; gwaith atgyweirio a chynnal a chadw arferol; gwaith sy'n ymwneud â gofynion iechyd a diogelwch; gwaith statudol; costau prynu; gwaith dymchwel sylweddol; tirweddu meddal; cyfarpar symudol - dylech ofyn am eglurhad gan y Cyngor Sir; gwaith sydd eisoes wedi cychwyn.
Y Grant
Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos bod angen cymorth arnynt. Lle derbynnir achos o'r fath, dylai ymgeiswyr wneud cais am y cyfraniad lleiaf sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau'n llwyddiannus. Bydd y grant wedi'i seilio naill ai ar £20,000 am bob swydd a greir / diogelu, neu 50% o gyfanswm costau cymwys y prosiect, p'un bynnag yw'r ffigur llai. Ni ellir defnyddio arian arall oddi wrth y Cyngor Sir fel arian cyfatebol ar gyfer grant hwn.
Sut mae gwneud cais?
I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais Rhan 1, cysylltwch â'r canlynol:
Mike Bull
Swyddog Prosiectau Adfywio Ffisegol
Cyngor Sir Caerfyrddin
Canolfan Datblygu Busnesau Cefn Gwlad
Nant-y-Ci
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin, SA33 5BT
Ffôn: 01267 242338
e-bost: MABull@sirgar.gov.uk
Wardiau Cymwys
pdf areas here
Download Help
Lawrlwytho Cymorth
Abergwili
Gogledd Tref Caerfyrddin
De Tref Caerfyrddin
Gorllewin Tref Caerfyrddin
Cenarth
Cil-y-cwm
Cynwyl Elfed
Cynwyl Gaeo
Talacharn
Llanboidy
Llanddarog
Llandeilo
Llanymddyfri
Llanegwad
Llanfihangel Aberbythych
Llanfihangel-ar-arth
Llangadog
Llangeler
Llangynnwr
Llangyndeyrn
Llansteffan
Llanybydder
Maenordeilo a Salem
Sanclêr
Llanismel
Tre-lech
Hendy-gwyn

http://europa.eu/scadplus/leg/en/lvb/l60032.htm