Mae'r Gronfa Datblygu Eiddo yn darparu cymorth ariannol i ddatblygu adeiladau diwydiannol a masnachol, sy’n adeiladau parod i’w llogi, ar safleoedd cyflogaeth strategol yn Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Nod y Gronfa yw datblygu, yn y rhanbarth adeiladau masnachol o safon uchel, sy'n bodloni safon 'Rhagoriaeth BREEAM’. Gall y Gronfa ddarparu hyd at 50% o gostau datblygu safle.
Cafwyd cyllid ar gyfer y cynllun hwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Cymru drwy'r rhaglen Cydgyfeirio. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn dod â manteision gwirioneddol i'r economi lleol o ran nifer ac ansawdd y swyddi y darperir lle ar eu cyfer, yr arwynebedd llawr a gaiff ei greu, faint o dir a ddatblygir, nifer y Mentrau Bach a Chanolig eu Maint y darperir lle ar eu cyfer a nifer y mentrau a fydd yn mabwysiadu neu'n gwella eu strategaethau cydraddoldeb a'u systemau monitro.

Pwy sy'n gymwys?
Bwriedir i hon fod yn Gronfa ar gyfer datblygwyr hapfasnachol, buddsoddwyr a pherchenogion tir eraill sy'n dymuno datblygu adeiladau masnachol newydd i'w defnyddio gan sectorau busnes penodol megis gweithgynhyrchu, prosesu bwyd eilaidd a gweithgaredd rhwng busnesau.
Mae’r rhaglen yn benodol ar gyfer datblygiadau hapfasnachol. Dylai perchen-feddianwyr sy'n dymuno adeiladu safleoedd newydd neu helaethu eu safleoedd, gysylltu â Chymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B), drwy ffonio 03000 603000 neu fynd i www.cymorth-busnes-cymru.gov.uk, i gael mynediad i'r Gronfa Fuddsoddi Sengl.
Beth y gellir ei gyllido?
Dim ond cyllido prosiectau na fyddai'n mynd rhagddynt fel arall heb y cyllid fydd y Gronfa. Gall y Gronfa Datblygu Eiddo (PDF) gyllido canran o’r costau sydd ynghlwm wrth gaffael tir, dymchwel, adennill, paratoi safle, seilwaith ac adeiladu, a chyfran o ffïoedd proffesiynol. Mae'r cyllid ar gael i bontio’r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a'r hyn fyddai'r eiddo ei werth ar y farchnad ar ôl iddo gael ei gwblhau.
Ardaloedd Cymwys
Sir Gaerfyrddin
• Cross Hands
• Capel Hendre
• Llanelli (yr anheddiad, gan gynnwys Llangennech, ac eithrio canol tref Llanelli)
• Rhydaman
• Caerfyrddin
Castell-nedd Port Talbot
• Bae Baglan
• Dociau Port Talbot
• Glan-rhyd
• Castell-nedd (yr anheddiad ac eithrio canol y dref)
• Parc Busnes a Hamdden Rheola
• Pentref Trefol Coed D'arcy
• Ffordd Fabian
Sir Benfro
• Parc Busnes y Llwyn Helyg
• Parc Busnes Pont Cleddau
• Dyfrffyrdd Aberdaugleddau
• Abergwaun/Wdig
• Trecŵn
Sylwch mai dim ond tan o leiaf mis Medi 2010 y bydd Cyngor Sir Penfro yn gwahodd ceisiadau ynghylch safle strategol y Llwyn Helyg.
Abertawe
• Abertawe
• Ffordd Fabian
• Felindre
• SA1 (Glannau Abertawe)
• Parc Busnes Gorllewin Abertawe
• Pen Isaf Cwm Tawe sef Bro Abertawe a'r Morfa a choridor afon Tawe
Sut y gallaf wneud cais?
I gael rhagor o fanylion a chopi o Becyn Cymorth y Gronfa Datblygu Eiddo a Ffurflen Gais Cam 1, cysylltwch ag;
Alwyn Thomas neu Barry Hale
Swyddogion Prosiect Adfywio Ffisegol
Canolfan Adnoddau Busnes
Parc Amanwy
Ffordd Newydd
Rhydaman
Sir Gaerfyrddin
SA18 3EP
Rhif ffôn: 01269 590208 / 590276
e-bost : aljthomas@sirgar.gov.uk / bhale@sirgar.gov.uk 