O 1 Chwefror 2013, bydd Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen sy’n canolbwyntio ar y gymuned a fydd yn cefnogi Agenda Gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynorthwyo’r bobl fwyaf difreintiedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda’r nod o gyfrannu at leddfu tlodi parhaus. Nod y rhaglen fydd cyfrannu, law yn llaw â rhaglenni eraill, i leihau’r bwlch ym meysydd addysg, sgiliau ac iechyd a’r bwlch economaidd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a’r rhai mwy cefnog.
Bydd y rhaglen yn gwneud hyn trwy:
- Cefnogi unigolion, teuluoedd a grwpiau o bobl sydd â'r deilliannau gwaelaf o ran addysg, sgiliau ac iechyd a deilliannau economaidd yn enwedig mewn mannau lle mae’r amddifadedd mwyaf;
- Cynyddu sgiliau bywyd unigolion, eu hunan-barch a'u hunanddibyniaeth, gan gynnwys eu gallu ariannol;
- Cefnogi a chryfhau gweithgareddau lleol sy'n gwneud y cyfraniad mwyaf o ran mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd, gyda mudiadau cymunedol a'r cymunedau eu hunain yn bartneriaid allweddol.
Bydd Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf yn darparu mewn 3 maes
- Cymunedau Ffyniannus (Economaidd)
- Cymunedau Dysgu (Addysg a Sgiliau, yn enwedig trwy gyflogadwyedd)
- Cymunedau Iachach (Iechyd)
Adain Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rheoli'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd y rhaglen yn cael ei darparu ar sail ddaearyddol mewn un ardal clwstwr. Nodir yn y rhestr isod y lleoedd a'r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is (LSOAs) yn y clwstwr.
Ardal Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin
ENW LSOA
- Tŷ-isha 2
- Bigyn 4
- Glanymôr 3
- Glanymôr 1
- Tŷ-isha 3
- Glanymôr 2
- Llwynhendy 3
- Hengoed 2
- Llwynhendy 2
-
Lliedi 3
- Rhydaman 1
- Trimsaran 1