Trydydd Sector Bywiog
Mae gan ein rhanbarth Drydydd Sector llewyrchus sy'n cyfrannu at ein cymunedau bywiog. Ein nod yw diogelu dyfodol y sector drwy raglen gyffrous sy'n rhoi cymorth o ran creu sefydliadau cynaliadwy.
Mae partneriaid y prosiect eisoes yn rhoi cymorth gwych, a'n bwriad yw ychwanegu ato er mwyn cynnig cymorth a chyfarwyddyd mewn meysydd newydd megis:
- Sgiliau newydd i reoli eich sefydliad
- Ffyrdd o symud o grantiau i fasnachu
- Datblygu Menter Gymdeithasol*
* Mae mentrau cymdeithasol yn masnachu er mwyn sicrhau budd cymdeithasol ac ail-fuddsoddi elw i gyflawni amcanion cymdeithasol.
Mae'r Cynghorau Sir a'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe wedi ffurfio partneriaeth unigryw i gyfuno adnoddau er llwyddiant y prosiect. Mae'r bartneriaeth yn defnyddio gwybodaeth arbenigol a phrofiad i rannu arferion gorau ledled y rhanbarth. Bydd y prosiect yn para hyd at Rhagfyr 2013.