Os ydych yn dymuno priodi yng Nghymru neu Loegr gallwch wneud hynny drwy seremoni sifil neu seremoni grefyddol.
Gellir cynnal seremoni sifil mewn swyddfa gofrestru neu mewn eiddo sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer priodasau gan yr awdurdod lleol (er enghraifftt, gwesty, plasty).
Gellir cynnal seremoni grefyddol mewn Eglwys neu Gapel sy'n perthyn i'r Eglwys yng Nghymru neu i Eglwys Lloegr neu unrhyw addolfan sydd wedi cael ei gofrestru ar gyfer priodasau gan y Cofrestrydd Cyffredinol.