Yn ddiweddar, mae'r Uned Diogelwch Ffyrdd wedi lansio ymgyrch newydd i gynyddu ymwybyddiaeth o ganlyniadau yfed a gyrru.
Mae tîm rygbi’r Scarlets, Llanelli, yn cefnogi'r ymgyrch ac maent wedi helpu i'w lansio cyn i dymor y Nadolig ddechrau. Mae posteri, baneri a chardiau-z wedi cael eu cynhyrchu ac arnynt ffeithiau a ffigurau a fydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith ynghylch yfed a gyrru a goblygiadau eu cael yn euog o hynny.
Mae'r ffigurau'n dangos bod oddeutu un o bob saith marwolaeth ar ffyrdd Cymru yn ymwneud â gyrwyr sydd â mwy o alcohol yn eu gwaed na'r hyn sy'n gyfreithlon. Bydd achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus o dan ddylanwad alcohol yn golygu dedfryd o 14 mlynedd (uchafswm) yn y carchar a chael gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf ddwy flynedd.
Cofiwch ei bod yn dal yn hawdd i berson fod â mwy o alcohol yn ei waed fore trannoeth noson o yfed na'r hyn sy'n gyfreithlon – gall gymryd dros 10 awr i fod yn glir o alcohol ar ôl yfed un botel o win a hyd at 18 awr ar ôl yfed pedwar peint o lager neu gwrw cryf.
Mae enghreifftiau o'r deunydd cyhoeddusrwydd sy'n cael ei ddosbarthu ar gael ichi ei lawrlwytho yma. Os ydych eisiau bod yn gyfreithiol ddiogel i yrru ac os ydych eisiau osgoi collfarn, mae gwybodaeth ar gael a fydd o gymorth ichi gyfrifo'n fras pryd fydd eich corff heb alcohol ynddo. Yn ogystal, mae gwybodaeth ar gael ynghylch beth fyddai'n digwydd pe baech yn cael eich dal yn gyrru pan oeddech dan ddylanwad alcohol a sut y gall cofnod troseddol effeithio'n wirioneddol ar fywydau pobl.