Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am gael gwared ar sbwriel o balmentydd, strydoedd a thir cyhoeddus ym mherchnogaeth y Cyngor.
Yn gyffredinol, y math o bethau a ystyrir yn sbwriel yw'r hyn sy'n cael ei adael ar y stryd megis bonion sigaréts, gwm cnoi, papur lapio losin, derbynebau arian, caniau a chynwysyddion pryd-ar-frys.
Mae rhai mathau o sbwriel yn gallu cymryd blynyddoedd i bydru'n ddim, gan achosi niwed sylweddol i fywyd gwyllt a chynefinoedd yn ogystal ag anharddu ardaloedd a chyfrannu at ragor o droseddau.
Gall y rhain gynnwys gwm cnoi, baw cŵn, gwydr wedi torri, dail, graffiti, posteri wedi eu gosod yn anghyfreithlon, gwastraff wedi'i waredu'n anghyfreithlon a hyd yn oed gerbydau a adawyd.
Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 yn mynnu bod dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Sir Caerfyrddin i gadw'r strydoedd a'r mannau eraill y mae'n gyfrifol amdanynt yn lân heb sbwriel.
Mae gan Is-adran Gwasanaethau Stryd y Cyngor 60 o staff glanhau ynghyd â nifer o beiriannau ysgubo mecanyddol.
Mae cyfartaledd o 40 tunnell o sbwriel yn cael ei godi yn Sir Gaerfyrddin bob wythnos, sy'n costio mwy na £2.1 miliwn y flwyddyn.
Drwy fwrw ati'n gyflym i symud sbwriel a deunyddiau sy'n cael eu gwaredu yn anghyfreithlon, mae'n llai tebygol y bydd mwy o ddeunyddiau yn cael eu hychwanegu.