Mae'r pwyllgorau fel arfer yn cyfarfod bob 6 wythnos i ystyried materion ac adroddiadau a gynhwysir yn Rhaglen Gwaith Cychwynnol Craffu, a ddatblygir ar ddechrau Blwyddyn y Cyngor. Trefnir cyfarfodydd ychwanegol o bryd i'w gilydd os bydd angen, ac weithiau cynhelir cyfarfodydd arbennig neu gyfarfodydd ar y cyd i ystyried materion brys neu faterion rhychwantu.
Mae cyfansoddiad y Pwyllgorau Craffu yn wleidyddol gytbwys i amlygu cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor cyfan, i'r graddau y mae hynny'n bosibl. Penodir Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion ar ddechrau Blwyddyn y Cyngor am gyfnod o flwyddyn (e.e. Mai 2011 hyd fis Mai 2012).
Am fwy o wybodaeth ar Bwyllgorau Craffu Cyngor Sir Caerfyrddin, cliciwch ar y cysylltiadau isod: