English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Diogelu Data 

Nod y Ddeddf Diogelu Data 1998 yw diogelu eich gwybodaeth bersonol a sicrhau yr ymdrinnir â hi yn ofalus ac yn briodol.

Ystyr data personol yw gwybodaeth amdanoch chi, gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn neu eich manylion ariannol. 

Mae'n ofynnol yn ôl y Ddeddf fod yr holl fudiadau sy'n casglu ac yn ymdrin â gwybodaeth bersonol yn cydymffurfio â nifer o reolau pwysig, sef yr egwyddorion Diogelu Data.  Mae'r mudiadau neu bobl sy'n casglu ac yn ymdrin â gwybodaeth bersonol yn cael eu galw'n Rheolwyr Data.

Fel Rheolwr Data, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymroi i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth drwy weithredu'r Egwyddorion Diogelu Data ar draws ei holl wasanaethau.

Am fanylion am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch gyfeirio at ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Cael gafael ar eich gwybodaeth

Mae'r Ddeddf yn caniatáu i chi ofyn am gopi o'r wybodaeth a ddelir amdanoch drwy wneud yr hyn a elwir yn ‘gais gwrthrych am wybodaeth’. Er mwyn ein galluogi i ymdrin â chais o'r fath, bydd arnom angen:

Gallwch ofyn i’r Cyngor:

  • Os yw’n prosesi wybodaeth amdanoch chi
  • Am ddisgrifiad o’r wybodaeth a’r rhesymau y mae'r Cyngor yn ei brosesi
  • Pwy sy’n derbyn y wybodaeth 
  • Am gopi o’r wybodaeth
  • Am fanylion ynglŷn â ffynhonnell y wybodaeth (lle mae’r rhain ar gael)

Rhaid i gais fod yn ysgrifenedig.

Yn ogystal, nid oes rhaid ii’r Cyngor comply gyda chais os oes angen y canlynol arnom:

  • Tystiolaeth ddigonol i’n galluogi i gadarnhau pwy ydych chi
  • Digon o wybodaeth i'n galluogi i gael hyd i'r wybodaeth y gwnaed cais amdani
  • Ffi o £10.00

Gwneud Cais

Os hoffech wneud cais, dylid ysgrifennu at:

Y Swyddog Gwybodaeth a Diogelu Data
Neuadd y Sir,
Caerfyrddin,
SA31 1JP

Ebost: dataprotection@carmarthenshire.gov.uk
Ffôn (am unrhyw ymholiadau): 01267 224127

Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn darparu gwybodaeth bersonol dim ond i’r rhai sydd a’r hawl i’w dderbyn. 

Felly, os nad ydym yn siŵr pwy ydych chi, fe fyddwn yn gofyn i chi gadarnhau hyn drwy roi fwy o wybodaeth i ni.

Mewn sefyllfa fel hon, fe allwn ofyn am weld dogfen i gadarnhau pwy ydych chi, megis:

  • Tystysgrif geni
  • Pasbort
  • Trwydded yrru
  • Bil gwasanaeth, e.e. trydan

Ar ôl i ni dderbyn eich cais, unrhyw wybodaeth/taliad sydd angen arnom, mae’n ofynnol i roi ymateb o fewn 40 diwrnod yn ôl gofynion y Ddeddf.

Systemau Teledu Cylch Cyfyng (TCC) a reolir gan y Cyngor

Mae hefyd gennych hawl i weld ffilm ohonoch chi a recordiwyd gan systemau Teledu Cylch Cyfyng (TCC) a reolir gan y Cyngor.

Gyda rhai eithriadau, os rydym yn meddu arno, gallwn ddarparu o ffilm TCC sydd wedi recordio lluniau ohonoch.

Mae ceisiadau am ffilmiau TCC yn cael eu hymdrin yn yr un modd â cheisiadau gwrthrych am wybodaeth eraill.  Rhaid felly gwneud cais ysgrifenedig, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Beth bynnag, dylid nodi fod rhaid talu ffi o £10.00 ymhob achos, yn ogystal â darparu’r manylion isod i’n galluogi i chwilio am unrhyw luniau sydd yn ein meddiant:

  • Lleoliad y system TCC 
  • Yr amser a’r dyddiad a gredwch y cafodd y lluniau eu recordio
  • Ffotograff ohonoch a oedd yn un diweddar pan recordiwyd y lluniau

Fyddai hefyd o gymorth petai fodd i chi gynnwys unrhyw wybodaeth arall a all ein cynorthwyo i ddod o hyd i’r lluniau (e.e. unrhyw ddilledyn hawdd ei adnabod a wisgwyd gennych chi ar y pryd).

Gall hefyd fod angen fwy o wybodaeth arnon ni i gadarnhau pwy ydych chi. 

Os ydych yn gleient Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys cyn-gleientiaid)

Os ydych yn gleient Gofal Cymdeithasol, gallwch gael mynediad i'ch ffeiliau neu'ch cofnodion drwy eich gweithiwr cymdeithasol neu'ch tîm gwaith cymdeithasol.  Cynhwysir rhagor o fanylion yn y daflen Gofal Cymdeithasol Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae gennych hawl gyffredinol i gyrchu'r wybodaeth sydd gennym nad yw'n berthnasol i chi fel unigolyn, ac nad ydym yn ei chyhoeddi'n rheolaidd, drwy wneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cwynion

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r modd y mae'r Cyngor yn prosesu eich gwybodaeth, rhowch wybod i'n Swyddog Gwybodaeth a Diogelu Data, neu i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gwybodaeth bellach

Am fwy o fanylion ar eich hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn llawn gwybodaeth a chyngor defnyddiol.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/4/2011
 
Manylion Cysyllt
 

Swyddog Gwybodaeth a Diogelu Data
Neuadd y Sir,
Caerfyrddin,
SA31 1JP

Ffôn: 01267 224127
Ebost