Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

Cynllun Strategol Cydraddoldeb

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol Cydraddoldeb sy’n amlinellu sut bydd y Cyngor yn gwireddu ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Dyletswyddau Penodol yng Nghymru yn ei rôl fel cyflogwr, wrth ddarparu gwasanaethau ac fel arweinydd cymunedol.

Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw priodol i'r angen i:

  1. Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf;
  2. Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
  3. Hybu perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Ynghyd a’r Cynllun, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi adroddiad tystiolaeth ar gyfer datblygiad y Nodau Cydraddoldeb, ac adroddiadau Ymgysylltu, yn dilyn gwaith penodol gyda chymunedau a staff.

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi'r camau a fydd yn cael eu rhoi mewn lle yn ystod y pedair blynedd nesaf, er mwyn gwireddu Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor. Am wybodaeth bellach neu os ydych yn dymuno copi o’r ddogfen mewn fformat penodol, cysylltwch â ni ar e-bost drwy cydraddoldeb@sirgar.gov.uk, drwy ffonio 01267 224914 neu drwy neges destun 0789 2345678.

Dogfennau Defnyddiol 

Mae Adroddiad y Cyngor ynghylch Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer 2011-2012 wedi cael ei gwblhau'n derfynol ac ar ôl ei gyfieithu caiff ei gyhoeddi ochr yn ochr ag Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2011-12.

 

Cynllun Strategol Cydraddoldeb 2012-16

 

Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Gweithredu

 

Ffurflen monitro recriwtio

 

Adroddiad Blynyddol CSC 2011-12

Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/4/2013