DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 (fel y'u diwygiwyd)
Cyhoeddi Rhif Dilysu
Mae'n ofynnol, dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, fod cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn trefnu cyflawni eu swyddogaeth trwy weithrediaeth ar ffurf a bennir yn y Ddeddf. Arweinydd a Chabinet yw'r drefn a weithredir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i'r Cyngor gynnal refferendwm ynghylch a ddylai ddefnyddio gweithrediaeth wahanol, yn sgil cyflwyno deiseb ddilys gan etholwyr llywodraeth leol. Ni chaniateir i Gyngor gynnal mwy nag un refferendwm mewn cyfnod o bum mlynedd.
Mae'r rheoliadau'n pennu cyfyngiadau amser o ran rhoi deiseb i'r Cyngor. Chwe mis yw'r cyfnod deisebu ac mae'r cyfnod hwnnw'n dechrau ddeuddeg mis cyn dyddiad cynnal etholiadau cyffredin llywodraeth leol. Mae'r etholiadau nesaf i'w cynnal ym Mai 2012 a byddai'n rhaid cyflwyno'r cyfryw ddeiseb i'r Cyngor rhwng 1af Mai 2011 a 1af Tachwedd 2011 (y cyfnod deisebu).
Mae'n ofynnol fod Swyddog Priodol y Cyngor yn cyhoeddi, cyn dechrau'r cyfnod deisebu, rif (a elwir yn rhif dilysu) sy'n cyfateb i 10% o nifer yr etholwyr llywodraeth leol sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr etholiadol ar ddyddiad penodedig. Effaith y rhif hwn fydd pennu a yw deiseb a roddir i'r Cyngor yn ystod y cyfnod deisebu yn ddilys neu beidio. 13,269 yw'r rhif perthnasol.
Lyn Thomas
Swyddog Monitro
1af Hydref 2010