Mae'r gwasanaeth mapio rhyngweithiol hwn ar y we yn cynnig mynediad at amrywiaeth o wybodaeth am y Cyngor Sir a Sir Gaerfyrddin. Mae'n eich galluogi i weld mapiau Arolwg Ordnans a haenau data a fapiwyd, sydd wedi'u darparu gan nifer o adrannau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn ogystal â rhagor o ddata defnyddiol gan ffynonellau allanol.
Cliciwch yma i ddefnyddio'r gwasanaeth mapio rhyngweithiol.
Drwy wneud hyn, rydych yn cytuno â Thelerau ac Amodau Arolwg Ordnans.
Sut i ddefnyddio ‘Dod o hyd i'r Agosaf’
Gallwch ddefnyddio tab y cyfleuster Chwilio am Gyfeiriad i nodi cod post er mwyn dod o hyd i leoliad ar fap. Gadewch fwlch yn y cod post wrth ddefnyddio'r cyfleuster Chwilio am Gyfeiriad, e.e. rhowch SA31 1JP nid SA311JP.
Dewiswch yr adeilad o'r rhestr a ddarperir a chliciwch ar 'MYND’.
Er mwyn dangos haenau ar y map, cliciwch ar unrhyw gategori a rhowch dic yn y blwch wrth ymyl pob haen sydd arnoch ei hangen.
Defnyddiwch saeth eich llygoden i glicio ar y map a'i lusgo i leoliad newydd. Cliciwch ddwywaith ar y llygoden i glosio, neu defnyddiwch yr olwyn ar y llygoden i glosio / pellhau. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r offer symud a chlosio yng nghornel chwith uchaf y map.
Cliciwch ar unrhyw un o'r eiconau rydych wedi'u hagor ar y map i weld rhagor o fanylion ynghylch y lle penodol hwnnw.
Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd data cyhoeddus a fapiwyd yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cliciwch yma i gael data ynghylch Ceisiadau Cynllunio
I gael rhagor o ddata cyffredinol ynghylch Cynllunio, cysylltwch â'r Adran Gynllunio neu ewch i'r wefan ganlynol