| 
| | Cynllun Cydraddoldeb Hil Cyngor Sir Caerfyrddin Rydym yn adolygu ein Cynllun Cydraddoldeb Hiliol. Byddem yn hoffi cael eich sylwadau i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn modd effeithiol. |
 | | Cynllun Biniau Gwyrdd/Bagiau Glas O 1 Medi bydd miloedd yn fwy o drigolion Sir Gaerfyrddin yn elwa o wasanaeth ailgylchu o dŷ i dŷ. Mae’r cyngor yn estyn ei gynllun biniau gwyrdd/bagiau glas i 30,000 o aelwydydd ychwanegol. |
 | | Llwybrau Diogelach yn y Gymuned Clustnodwyd Porth Tywyn fel ardal a allai elwa o’r cynllun hwn sy’n canolbwyntio ar ddarparu diogelwch a rhwyddineb i ddulliau teithio cynaliadwy, tra’n ymwybodol ar yr un pryd bod yna nifer o deithiau sy’n gofyn am ddefnydd car preifat o hyd. I ddarganfod rhagor o wybodaeth am Llwybrau Diogel i’r Gymuned yn ardal Porth Tywyn, dewch i ddiwrnod agored arbennig. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. |
 | | Menter Twyll Genedlaethol Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Gall rannu gwybodaeth a roddir iddo â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a darganfod twyll. |
 | | Cynllun Masnachwyr Cofrestredig Fe wnaeth Gwasanaethau Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin sefydlu’r cynllun hwn i geisio lleihau nifer y cwynion am y diwydiant adeiladu, drwy ei gwneud yn ofynnol i adeiladwyr fasnachu’n deg ac yn onest a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Rydym am gynyddu’r hyder sydd gan bobl mewn masnachwyr lleol, a hefyd rydym bellach wedi llunio rhestr o Arddwyr a Phobl Mân Dasgau. |
 | | Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (LDP) Mae’r gwaith o lunio Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin wedi cychwyn. Ar hyn o bryd, gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i argymell ‘safleoedd ymgeisio’ i’w datblygu yn y dyfodol neu eu gwarchod. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 5ed Medi 2008. |
 | | Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad Cynaliadwyedd/ Asesiad Amgylcheddol Strategol Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad Cynaliadwyedd yw cam cyntaf proses yr Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol ac mae'n nodi cyd-destun yr Arfarniad Cynaliadwyedd a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol. Bydd yr Arfarniad Cynaliadwyedd yn profi'r Cynllun Datblygu Lleol o ran ei effaith ar agweddau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y Sir. Mae'r Cyngor yn awyddus i gael adborth drwy ymgynghori â'r holl bobl a grwpiau sy'n ymwneud â'r mater ynghylch pa mor briodol yw'r dull a nodir yn yr Adroddiad Cwmpasu. |
 | | Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi cael ei lunio drwy waith ar y cyd rhwng pedwar awdurdod lleol yn Ne-orllewin Cymru a bydd yn cael ei roi ar waith yn lle'r cynlluniau trafnidiaeth lleol unigol a fabwysiadwyd yn flaenorol gan y 4 cyngor. Dyma eich cyfle i ddylanwadu ar strategaeth, polisi a phrosiectau yn y dyfodol i helpu i wella trafnidiaeth a mynediad yn Ne-orllewin Cymru. |
| 
| | Cynllun Cydraddoldeb Anabledd Adroddiad Blynyddol Mabwysiadwyd Cynllun Cydraddoldeb Anabledd Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Rhagfyr, 2006. Dyma’r adroddiad blynyddol cyntaf ar weithredu’r cynllun. |
| 
| | Bydd y gynhadledd hon, a noddir eleni gan Kingswood Associates, ymgynghorwyr cyllid eiddo, yn cael ei chynnal yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli, ar 19 Mehefin. |
 | | Mae'r arolwg hwn yn ymdrechu i sicrhau'r union fannau lle nad oes gwasanaeth Band Eang a theleffoni symudol yng Nghanolbarth Cymru. |
| 
| | Tymhorau a Gwyliau Ysgol 2007/2008 Dyma ddyddiadau'r tymhorau a gwyliau ysgol 2007/2008 ar gyfer ysgolion yn Ninas a Sir Gar |
| 
| | Cyfleusterau ar gyfer Reportio Problemau Bydd y system yma’n galluogi’r cyhoedd i reportio problemau ar unrhyw leoliad drwy fap rhyngweithiol o Sir Caerfyrddin. |